Rhaid i bob disgybl wisgo'r wisg ysgol a bennir. Rhoddir manylion amdani isod. Dim ond yn yr ysgol y caiff crysau polo, crysau chwys a hwdis yr ysgol eu gwerthu.
Mae grantiau ar gael i rieni disgyblion blwyddyn 7 sydd yn hawlio prydau am ddim. Mae ffurflenni cais ar gael oddi wrth yr ysgol a’r Awdurdod Lleol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy Ionawr 31ain ar ôl i ddisgyblion ddechrau yn yr Ysgol Uwchradd ym mis Medi.
Dillad Ysgol Bechgyn a Merched
crys gwyn
Siwmper goch tywyll â motiff yr ysgol
tei ysgol
Siaced ddu â motiff yr ysgol
Trowsus du wedi’u teilwra i'r bechgyn *
Trowsus du wedi’u teilwra i'r merched neu sgert
ddu wedi'i theilwra, hyd y pengliniau *
Sanau duon neu deits plaen
Ni chaniateir defnydd denim neu debyg i denim na ‘leggings’.

Esgidiau – dylent fod yn ddu a phlaen a'r sodlau'n isel. Nid yw gwisgo esgidiau hyfforddi trwy'r dydd i'w argymell, yn ôl cyngor meddygol.
Gemwaith – ni chaniateir gwisgo tlysau, cadwyni, bathodynnau, breichledi nac addurniadau lliwgar yn y gwallt. Ni chaniateir tlysau wyneb. Caniateir gwisgo modrwy fechan blaen am y bys a styden fechan yn y glust.
Dillad Ymarfer Corff
Bechgyn |
Merched |
Top du a ambr llewys byr â logo'r ysgol |
Top du a ambr llewys byr â logo'r ysgol |
Crys rygbi du a ambr |
Crys chwys |
Siorts du |
Skort du (Siorts du - dewisol) |
Sanau ambr |
Sanau ambr |
Trowsus nofio / siorts nofio [nid siorts Bermuda] |
Gwis nofio un darn |
Esgidiau hyfforddi neu rai tebyg |
Esgidiau hyfforddi neu rai tebyg |
Tywel |
Tywel |
Esgidiau pêl droed a padiau |
Esgidiau pêl droed a padiau |
Tarian geg |
Tarian geg |
Crys chwys (dewisol) |
Legins rhedeg du (dewisol) |
Côt law â zip (dewisol) |
Côt law â zip (dewisol) |
Disgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn gweithgareddau Addysg Gorfforol rheolaidd oni bai eu bod yn cael eu hesgusodi am resymau meddygol. Gofynnir i rieni anfon nodyn pan nad yw disgybl yn ddigon da i gymryd rhan mewn chwaraeon, er ei fod/bod yn ddigon iach i ddod i'r ysgol.
RHAID nodi enw'r perchennog yn glir ar bob eitem o wisg a gwisg ysgol (gan gynnwys esgidiau a bwts) sy'n cael eu gwisgo i'r ysgol.
Gellir prynu pob eitem o'r wisg ysgol yn Contructiv Clothing yn Y Drenewydd. Eu cyfeiriad gwefan yw www.constructiv.co.uk. Dim ond yn Constructiv y gellir prynu'r tei ysgol, siwmper, siaced a'r cit Addysg Gorfforol. Gall rhieni brynu eitemau eraill o gyflenwyr gwahanol ond mae'n rhaid eu bod nhw yr un steil â'rrhai ar wefan Constructiv.